Skip to main content

Ynghylch #Dathlu25LoteriGenedlaethol

Rydym yn nodi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol trwy ddod â phobl ynghyd.

Rydym yn cynnig pobl a chymunedau gyda syniadau gwych y cyfle i dderbyn grant rhwng £100 a £1,000.

Mae ceisiadau ar gyfer #Dathlu25LoteriGenedlaethol nawr wedi cau.

Os rydych wedi cyflwyno cais gallwch dal mewngofnodi a lawrlwytho eich ffurflen os rydych angen cyfeirio ato’n y dyfodol. Gobeithiwn roi gwybod ichi trwy e-bost os rydych yn llwyddiannus erbyn 24 Chwefror 2020.

Sut y byddwn yn dewis pwy i ariannu?

Mae #Dathlu25LoteriGenedlaethol ynglŷn â phobl a chymunedau yn ymuno â’n dathliadau pen-blwydd.

Rydym yn disgwyl llawer o bobl i ymgeisio, felly i roi cyfle cyfartal i bawb, byddwn yn defnyddio dull loteri, gan ddewis ar hap yr ymgeiswyr i gael eu hasesu.

Cyn mynd fewn i’r raffl loteri, dyma rhai pethau rydych angen ei wybod

Bydd pawb sy’n cyflwyno cais yn cael eu cynnwys yn y raffl loteri, a fydd yn digwydd ar ôl y dyddiad cau am 2yh ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2019. Yna byddwn yn cynnal ychydig o wiriadau syml i sicrhau bod ceisiadau’n cwrdd â’n meini prawf cymhwysedd ac yn wirioneddol elwa’r gymuned.

Bydd gennym raffl loteri ar wahân i Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac o fewn gwahanol ranbarthau o Loegr i sicrhau dosbarthiad teg o arian #Dathlu25LoteriGenedlaethol ledled y DU.

Gobeithio gallwn roi gwybod i chi p’un ai ydych wedi bod yn llwyddiannus ai beidio erbyn 24 Chwefror 2020.

Pwy all ymgeisio?

Gallwch ymgeisio os ydych yn:

  • ddau neu fwy o bobl yn ymgeisio gyda’ch gilydd
  • grŵp neu glwb (cyfansoddedig neu anghyfansoddedig)
  • mudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • cwmni nid er elw (gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig drwy warant) neu gwmni budd cymunedol
  • ysgol, coleg neu brifysgol
  • corff statudol (gan gynnwys pentref, plwyf a chyngor cymunedol).

Mae grwpiau heb gyfansoddiad yn gymwys i wneud cais. Gallai hwn fod yn grŵp anffurfiol presennol, neu’n bobl yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf. Ar gyfer yr arian grant hwn, byddwn yn gofyn ichi gytuno i set syml o reolau a fydd yn eich helpu i redeg y grŵp, gwneud penderfyniadau am eich digwyddiad, gweithgaredd neu bryniant, a rheoli unrhyw arian a roddir i chi. Dim ond trwy gydol y grant y bydd hyn yn para.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolyn
  • unig fasnachwyr
  • mudiadau lle mae eu bwriad yw i gynhyrchu elw yn breifat yn bennaf
  • mudiadau wedi’u lleoli tu allan i’r DU
  • unigolyn neu fudiad yn ymgeisio ar ran un arall
  • pobl dan 18 oed.

Sylwch mai dim ond ar un cais y gallwch chi gael eich enwi fel prif neu ail gyswllt. Ni all y prif a’r ail gyswllt fod yn briod, mewn partneriaeth sifil, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda’i gilydd neu’n perthyn drwy waed.

Gallwn dim ond dderbyn un cais fesul grŵp.

Ar beth gallwch wario’r arian?

Gallwn dalu am ddigwyddiad, gweithgaredd, neu gostau eitemau rhwng £100 a £1,000 a fydd yn dod â phobl ynghyd rhwng Chwefror 1af a Rhagfyr 31ain 2020.

Gallwn ariannu amryw eang o eitemau, megis:

  • costau digwyddiad neu weithgaredd
  • offer
  • costau staff
  • costau hyfforddi
  • trafnidiaeth
  • gwasanaethau/costau cynnal cysylltiedig â’ch syniad
  • treuliau gwirfoddolwyr

Ni allwn ariannu

  • gweithgareddau tu allan i’r DU
  • alcohol
  • eitemau fydd dim ond yn elwa unigolyn neu deulu, yn hytrach na’r gymuned ehangach
  • gweithgareddau sy’n cynhyrchu elw er budd preifat
  • gweithgaredd crefyddol (er, gallwn ariannu mudiadau crefyddol os yw eu prosiect yn elwa’r gymuned ehangach a ddim yn cynnwys unrhyw gynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau statudol (er enghraifft, gallwn dim ond ariannu gweithgareddau ysgol sy’n ychwanegol i’r cwricwlwm)
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • costau sydd eisoes wedi digwydd
  • ad-daliadau benthyciad

Yr hyn rydym angen ei wybod

Isod, mae amlinelliad o’r hyn byddwch yn cael eich gofyn yn y cais. Dyma restr gwirio defnyddiol o’r holl wybodaeth byddwch ei angen i gwblhau eich ffurflen gais.

Manylion cyswllt

Bydd angen i chi roi enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a dyddiad geni’r prif gyswllt a’r ail gyswllt. Ni all y cysylltiadau a enwir fod yn briod, mewn partneriaeth sifil, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda’i gilydd neu’n perthyn drwy waed. Mae angen i’r ddau gyswllt fyw yn y DU.

Manylion grŵp/mudiad

Nid oes angen i chi fod yn grŵp ffurfiol i ymgeisio – gallwch ymgeisio hyd yn oed os ydych yn ddau neu fwy o bobl sydd gyda syniad gwych i ddod â phobl ynghyd yn eich cymuned.

Ynglŷn eich digwyddiad, weithgaredd neu eitem yn cael ei brynu

Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym

  • Beth hoffech ei wneud a pham (50-200 gair)
  • Pan fyddwch yn cynllunio dod â phobl ynghyd.
  • Faint o arian rydych yn ymgeisio amdano (rhwng £100 a £1,000) a beth fydd yn cael ei wario arno
Pwy fydd yn elwa o’r arian hwn?

Er na fydd hwn yn cael ei asesu’n ffurfiol, bydd y wybodaeth yn ein helpu i ddeall pwy fydd yn elwa o’ch arian.

Amodau a Thelerau

Bydd angen i chi gytuno â’n amodau a thelerau cyn i chi anfon eich cais.

Hyrwyddo eich grant

Os ydych yn derbyn grant, byddwn wrth ein boddau i chi hyrwyddo eich grant #Dathlu25LoteriGenedlaethol

Rydym yn hynod o hapus i fod yn ariannu prosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i bobl ledled y DU ac rydym eisiau eich helpu i ddweud wrth y byd am eich grant.

Yn gyntaf – byddem yn gwerthfawrogi os byddech wastad yn defnyddio’r hashnod #Dathlu25LoteriGenedlaethol pryd bynnag y byddwch yn ysgrifennu neu siarad am eich grant a’ch syniad, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol.

Nesaf, hoffem i chi gael hwyl wrth hyrwyddo eich grant. Cymrwch olwg ar wahanol ffyrdd o wneud hynny isod.